Close

Mae Theatr Gwaun yn recriwtio!

Job Opportunity at Theatr Gwaun

Oes gennych chi sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych a diddordeb mewn ffilm/theatr/digwyddiadau byw? Mae Theatr Gwaun yn chwilio am Reolwr ar Ddyletswydd arall i ymuno â’n Tîm Blaen Tŷ.
Fel Rheolwr ar Ddyletswydd, chi yn y bôn yw wyneb cyhoeddus Theatr Gwaun, yn gyfrifol am ddarparu profiad cwsmer rhagorol ochr yn ochr â chydweithwyr gwirfoddol, gyda chefnogaeth Rheolwr y Theatr. Un o brif dasgau ein Rheolwyr ar Ddyletswydd yw staffio’r Swyddfa Docynnau, cyfarch cwsmeriaid a phrosesu archebion tocynnau a diodydd/byrbrydau, ond mae ystod eang o elfennau eraill i’r swydd. Os credwch fod gennych y sgiliau a’r profiad i ymuno â’n tîm llawen yn Theatr Gwaun, anfonwch e-bost atom i jobs@theatrgwaun.com fel mynegiant o ddiddordeb a byddwn yn anfon manylion llawnach atoch i’w hystyried.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Gwener, Ionawr 6ed 2023.
Darperir yr holl hyfforddiant angenrheidiol.