Close

Mae’r Cadeirydd, Patrick Thomas, yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau 2021 a 2022. Bydd gŵyl eleni – sy’n cynnwys cerddoriaeth, theatr, ffilm, celfyddydau gweledol a sain – yn cynnig ‘ychydig o bopeth’.

 

“Rwy’n falch iawn bod Theatr Gwaun yn cynnal yr ŵyl unigryw hon am y drydedd flwyddyn yn olynol,” meddai. “Mae gennym ni gyfres gyffrous o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer y penwythnos ac yn y cyfnod cyn mis Medi. “Mae Ar Ymyl y Tir yn dod yn rhan hanfodol o’r byd diwylliannol yng Ngorllewin Cymru.

 

“Mae uchafbwyntiau eleni’n cynnwys y gantores-gyfansoddwraig Eve Goodman, yr awduron arobryn Sophie Mackintosh a Jon Gower, Stone Club, sy’n hynod arloesol a’r grŵp gwerin Brewen Favraw o Lydaw.” “Bydd artistiaid, cerddorion, actorion ac awduron o’r gymuned leol yn ymddangos dros dridiau’r ŵyl, ac mewn digwyddiadau eraill yn arwain at yr ŵyl – felly gwyliwch y gofod hwn!

 

“Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y brif ganolfan yn Theatr Gwaun, yn y Ffwrn, Peppers ac mewn lleoliadau awyr agored ar draws Abergwaun ac Wdig – a byddant yn fforddiadwy.”

 

Mae Ar Ymyl y Tir yn ŵyl i’r holl gelfyddydau – cerddoriaeth, theatr, ffilm, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a mwy, ac yn ddathliad o Ogledd Sir Benfro – y lle a’r bobl sy’n byw yma.

 

Ar ôl ei lansio ym mis Medi 2021, cynhaliwyd yr ŵyl eto ym mis Medi 2022 gyda chyllideb ychwanegol (diolch i gyllid gan Cyngor y Celfyddydau), a mwy o ddigwyddiadau. Bydd yr ŵyl eleni yn canolbwyntio’n benodol, ond nid yn gyfan gwbl, ar y thema ‘teithiau’.