Close

Ymddiriedolwyr yn Theatr Gwaun

Feature Photograph by Karel Jasper

Fel Ymddiriedolaeth Gymunedol, Cwmni Cyfyngedig trwy warant ac elusen gofrestredig, mae Theatr Gwaun yn ddibynnol ar ei Hymddiriedolwyr er mwyn sicrhau llywodraethu da a chyfrifol.

Daw ein Hymddiriedolwyr o ystod eang o gefndiroedd, ond yr hyn sydd gennym oll yn gyffredin yw dymuniad i weld Theatr Gwaun yn ffynnu fel theatr gymunedol ac ymrwymiad i wneud yr hyn y gallwn i gefnogi hynny. Rydym yn cwrdd bob mis, ond nid yw ein gwaith yn dechrau ac yn gorffen gyda chyfarfodydd! Er ein bod oll yn rhannu cyfrifoldeb dros iechyd cyffredinol y sefydliad, mae gan bob un ohonom feysydd cyfrifoldeb unigol hefyd.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am ddau neu dri Ymddiriedolwr ychwanegol, y mae ganddynt ddiddordeb yn un o’r meysydd canlynol neu fwy yn ddelfrydol: iechyd a diogelwch; cyllid; marchnata; cynhyrchu a pherfformio. Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn un o’r bobl yr ydym yn chwilio amdanynt, cysylltwch â’n Cadeirydd, Patrick Thomas, neu unrhyw un o’n Hymddiriedolwyr eraill am sgwrs anffurfiol, heb unrhyw reidrwydd i wneud ymrwymiad pendant.

 

 

 

Cyfle i chi gael dweud eich dweud am ddyfodol Theatr Gwaun.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi Theatr Gwaun trwy gynnig nawdd, cysylltwch â ni:
Ffôn. 01348 873421 / E-bost: enquiries@theatrgwaun.com