Close

Ymunwch â'n Panel Ffilm Cymunedol! Cyfrannwch eich syniadau a'ch awgrymiadau!

Dewisir y ffilmiau a ddangosir yn Theatr Gwaun gan y gymuned – mae hynny’n eich cynnwys chi! 

Wedi’i sefydlu ar y cyd â Chymdeithas Ffilm Abergwaun, mae ein panel ffilm cymunedol yn dod â phobl ag amrywiaeth eang o wybodaeth a diddordeb ynghyd. P’un a ydych chi’n ddilynwr ffilm yn gyffredinol neu’n ffan o genre arbennig – drama, dogfen, comedi, arswyd, beth bynnag – mae croeso i chi gyfrannu at gynllunio ein rhaglen ar gyfer y dyfodol. 

Os oes ffilm benodol yr hoffech ei gweld yn cael ei dangos yn Theatr Gwaun, nodwch hi yn y blwch awgrymiadau a byddwn yn ei hychwanegu at ein rhestr i’w hystyried.

Gwnewch awgrym ffilm

Os hoffech gyflwyno awgrym ffilm i’w hystyried, llenwch y ffurflen isod.


Dod yn Aelod o’r Panel Ffilm Cymunedol

Os hoffech gymryd mwy o ran a helpu i ddewis y ffilmiau a chynllunio’r rhaglen, nodwch eich manylion cyswllt isod a byddwn yn cysylltu â chi.