Close

Ymunwch â'n tîm cyfeillgar o wirfoddolwyr!

A ydych chi’n mwynhau: Ffilm, Cerddoriaeth, Theatr? Cyfarfod pobl newydd? Cefnogi’r Gymuned leol?

A oes gennych chi? Ychydig oriau bob wythnos neu bob mis i’w sbario? Agwedd gyfeillgar? Llawer o frwdfrydedd? Awydd i rannu a dysgu sgiliau newydd?

 

Ein tîm o wirfoddolwyr yw curiad calon Theatr Gwaun. Maent yn hanfodol i’r gwaith o redeg eich theatr gymunedol! Mae rolau gwirfoddolwyr yn niferus ac yn amrywiol, o gynnig croeso cynnes i gwsmeriaid, gwirio tocynnau, gwaith bar, marchnata a dosbarthu posteri a thaflenni, codi arian, gwaith pwyllgor, glanhau, rheoli digwyddiadau byw a llawer llawer mwy. Mae rhywbeth i bawb!

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Casglwch ffurflen gais gwirfoddolwr o Swyddfa Docynnau y Theatr
neu anfonwch e-bost clare.butler@theatrgwaun.com

Llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd i’r Theatr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli, cysylltwch â:

Clare Butler – Rheolwr Blaen y Tŷ a Gwirfoddoli
Ebost: clare.butler@theatrgwaun.com