Close

Artistiaid yn Theatr Gwaun - 2ail Ebrill i 14eg Mai 2024

Buzz Knapp-Fisher a Sheila Knapp-Fisher

Mae caffi/bar Martha, ynghyd ag ardal ein Swyddfa Docynnau, bellach wedi’u sefydlu’n gadarn fel gofod ar gyfer arddangosfeydd celf rheolaidd. Mae’r fenter gyffrous hon yn rhoi cyfle i artistiaid a ffotograffwyr lleol, boed yn adnabyddus neu’n dal i gael eu ‘darganfod’, i ddangos eu gwaith i’r gymuned.

Mae artistiaid yn cael eu ddewis a chaiff yr arddangosfeydd eu curadu gan ein Hymddiriedolwr, Blanche Giacci mewn partneriaeth â Chymdeithas Celfyddydau Abergwaun.

Am wybodaeth, cysylltwch â
admin@theatrgwaun.com.

Mae’r Knapp-Fishers yn deulu o artistiaid adnabyddus o Sir Benfro. Mae’n bleser cael arddangos eu gwaith yn Theatr Gwaun. Mae dau baentiad yn cael eu harddangos gan y pensaer enwog, Arthur Bedford Knapp-Fisher. Mae paentiad o destun anarferol gan John Knapp-Fisher sydd ar werth trwy law ei ferch, Lucie. Rydym yn falch o gael arddangosfa helaeth o waith celf Sheila Knapp-Fisher i gynnwys ei gwaith cyfriniol a blodau hardd. Mae casgliad diddorol o waith Buzz Knapp-Fisher hefyd yn cael ei arddangos. Astudiodd Buzz gerflunwaith yn Ysgol Gelf Central St. Martins. Mae’n arlunydd ac yn gerflunydd. Mae’n ymwneud yn helaeth â newid hinsawdd a diwygio amgylcheddol.