Mae tri pherfformiwr ifanc dawnus yn Sir Benfro yn dathlu ar ôl cael eu cyhoeddi fel enillwyr Gwobr Celfyddydau Abigail eleni!
Mae’r wobr, a sefydlwyd yn 2022 yn cael ei rhedeg gan Theatr Gwaun yn Abergwaun gyda chyllid gan y teulu Goswell, fel ffordd i anrhydeddu etifeddiaeth Abigail Goswell a fu farw o ganser y fron.
Fel arfer mae dau berson ifanc sydd am ddechrau gyrfa yn y celfyddydau yn cael eu dewis; ond eleni ni lwyddodd y beirniaid i’w gyfyngu i ddau a phenderfynwyd helpu tri unigolyn dawnus!Derbyniodd Dylan Swales o Johnston, Tomos Newman o Martletwy a Storm-Rose Knapp-Fisher o Lanwnda gyfran o £1250. Rhoddwyd sieciau a thystysgrifau i’r tri mewn seremoni arbennig yn Theatr Gwaun ar Awst 2il.
Dangosodd Dylan addewid gyda’i ddrymio yn ddim ond deg oed. Ef yw’r Cymro ieuengaf erioed i dderbyn gradd 8 mewn cerddoriaeth gyda rhagoriaeth. Aeth ymlaen i gael ei restru yn y 40 uchaf o ddrymwyr ifanc yn y DU yn 2019 a pherfformiodd hefyd yn y Symphony Hall yn Birmingham fel rhan o’r Ŵyl Gerddoriaeth Genedlaethol i Ieuenctid. Bellach ar fin cychwyn ar gyrsiau lefel A, mae Dylan yn bwriadu gwario’r arian ar fwy o wersi drymio er mwyn dilyn ei yrfa fel drymiwr.
Wrth dderbyn ei siec dywedodd Dylan “Diolch yn fawr iawn, mae’r wobr hon yn fy helpu i ddatblygu fy hyfforddiant drymiau a chyrraedd fy nod o fod yn gerddor proffesiynol.”
Mae Tomos yn ganwr gwerin a chyfansoddwr caneuon 17 oed sydd eisoes ag un albwm poblogaidd o dan ei wregys. Yn ogystal â chwarae sawl offeryn mae Tomos hefyd yn dysgu eu cywiro, gan weithio fel prentis yn Main Street Music ym Mhenfro. Mae’n barod i fynd i’r stiwdio i recordio’r albwm newydd y mae wedi’i ysgrifennu ac mae’n dweud y bydd y wobr yn ei helpu i ariannu’r sesiynau stiwdio hanfodol hynny.
Yn seremoni’r enillwyr dywedodd Tomos “Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o roi Gwobr Gelfyddydol arbennig Abigail i mi. Dwi’n methu aros i ddefnyddio’r grant yma i fynd i mewn i’r stiwdio a chreu fy albwm nesaf.”
Thespian ifanc yw Storm sydd wedi ymrwymo i ddilyn gyrfa ar lwyfan neu sgrin. Yn gefnogwr brwd o Shakespeare, astudiodd y Celfyddydau Perfformio yn y coleg ac ymunodd â’r Theatr Ieuenctid Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae hi’n paratoi ar gyfer clyweliadau Ysgol Ddrama ac eisiau gwario ei grant ar gostau gwneud ceisiadau.
Roedd Storm hefyd wrth ei bodd o fod yn enillydd, gan ddweud “Mae’r wobr hon mor wych ac yn ffordd arbennig o gefnogi artistiaid ifanc lleol ar ddechrau eu gyrfaoedd o fewn y celfyddydau. Bydd yn mynd yn bell ac yn golygu llawer.”
Cyfarfu tad Abigail, Richard Goswell, â’r enillwyr a rhoi eu tystysgrifau iddynt ynghyd â’r sieciau. Dywedodd “Roedd yr holl geisiadau eleni yn gryf iawn ac roedd yn benderfyniad anodd dewis yr enillwyr. Mae’r gwobrau hyn yn ffordd wych o gyflawni etifeddiaeth Abigail a gobeithio y bydd yr enillwyr yn defnyddio’r arian i helpu i wireddu eu breuddwydion.” Ychwanegodd, “Rwyf hefyd yn falch iawn o gwrdd â rhieni’r enillwyr ac rwy’n siŵr bod eu cefnogaeth barhaus yn ffactor mawr yn eu llwyddiant.”
Dywedodd Emma, chwaer Abigail, “Mae’r ffaith na allem ddewis dau enillydd eleni wir yn dangos ehangder a lefel y dalent yn y rhan hon o’r byd! Rwy’n meddwl y byddai Abigail yn falch iawn o’r HOLL bobl ifanc a gymerodd amser i ymgeisio am ei gwobr.”
Bydd Gwobr Celfyddydau Abigail 2024 yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Patrick Thomas drwy e-bost yn Theatr Gwaun, patrick@theatrgwaun.com neu ewch i’r wefan Theatr Gwaun.