
Ar Ymyl y Tir 2026
Thema morfil sydd i’r ŵyl eleni gan bod 70 mlynedd ers rhyddhau’r ffilm glasurol Moby Dick, y ffilmiwyd i raddau yn Abergwaun ac Wdig.
Fel rhan o’r dathliadau, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym yn comisiynu murlun mawr ar adeilad amlwg yn Abergwaun (yn ôl pob tebyg yn Y Wesh, union leoliad i’w gadarnhau).
Rhaid i’r murlun fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Medi 2026. Cynhelir yr Ŵyl ei hun dros y penwythnos sy’n dechrau 25ain Medi 2026. Bydd y murlun yn un rhan o benwythnos cyffrous a chyhoeddus o gerddoriaeth, celf, delweddau realiti rhithwir a gorymdaith llusernau enfawr. Bydd hwn yn gyfle eithriadol i godi proffil yr artist llwyddiannus ar lefel ranbarthol.
Os oes gennych chi brofiad o beintio murluniau neu gelf gyhoeddus yn gyffredinol ac rydych chi’n gyffrous am y cyfle hwn, anfonwch ddatganiad o ddiddordeb at info@onlandsedge.co.uk erbyn 26ain Ebrill 2026 a byddwn ni’n darparu rhagor o fanylion am ein gofynion a’r broses ddethol. Rhowch fanylion cyswllt llawn. Os dymunwch, gallwch gynnwys enghreifftiau o’ch gwaith blaenorol.
