Sefydlwyd Cymdeithas Ffilm Abergwaun ym 1994, a’i nod yw dod â’r gorau o sinema’r byd i’r gymuned leol.
Ein pwrpas erioed oedd gwylio detholiad gwych o ffilmiau rhyngwladol a chelfyddydol, gan rannu’r profiad mewn amgylchedd hamddenol gydag edmygwyr eraill o sinema llai poblogaidd.
Mae gan Theatr Gwaun a Chymdeithas Ffilm Abergwaun berthynas agos â’i gilydd ers blynyddoedd. Mae hynny bellach wedi dod yn agosach fyth, ar ôl i ni greu ein panel ffilm cymunedol i ddewis yr holl ffilmiau i’w dangos yn Theatr Gwaun. Ochr yn ochr â’r brif raglen, byddwn yn parhau i gyflwyno detholiad nodedig y Gymdeithas Ffilm ei hun o ffilmiau rhyngwladol a chelfyddydol a ddewisir gan ac ar gyfer ein haelodau.
Ar ôl y ffilm mae rhai ohonom yn hoffi aros o gwmpas a’i thrafod, tra bod yn well gan eraill lithro i ffwrdd yn dawel ac amsugno’r hyn yr ydym newydd ei weld. Y naill ffordd neu’r llall, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r teimlad boddhaol ein bod, gyda’n gilydd, yn hyrwyddo mynegiant artistig ac yn cynnig croeso i feddyliau ymchwilgar ac eneidiau sensitif!
Ochr yn ochr â’r ffilmiau hoffem ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau — sgyrsiau, gweithdai, dangosiadau arbennig a chynulliadau cymdeithasol — felly ymunwch â ni a dewch â’ch syniadau i’w rhannu.
Mae aelodaeth yn costio £5 yn unig am y flwyddyn (£3 i’r rhai dan 18 oed). Mae gan aelodau’r hawl i gael mynediad gostyngol i’n holl ddangosiadau ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau i aelodau yn unig. (Mae croeso hefyd i rai nad ydynt yn aelodau, ond rhaid talu pris llawn; archebwch ymlaen llaw neu talwch yn y swyddfa docynnau.)
Os hoffech ymuno, defnyddiwch y ffurflen isod:
© 2023 Theatr Gwaun, Charitable company No.07565394.
Brand & Website Design by HU STUDIO | Feature photography courtesy of KAREL JASPER