Close

Fishguard Festival of Music – Pedair

Pedair draws on the talents of four of Wales’ most prominent folk artists: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym and Siân James. Groundbreaking international artists, they thrive on collaboration and the thrill of live performance. With harps, guitars, piano and accordion, their music has captured the hearts of audiences with their sweeping harmonies, fresh interpretations of the Welsh folk tradition, and intimacy of songwriting. Their first recordings, having emerged during lockdown, gained instant popularity.

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A’r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio’n fyw. Gyda’i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitarau, piano ac acordion. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda’u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o’r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi. Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!).