Mae Gŵyl Ar Ymyl y Tir yn ôl ym mis Medi am y bedwaredd flwyddyn yn olynol! Unwaith eto bydd amrywiaeth wefreiddiol o artistiaid, awduron a pherfformwyr o’r radd flaenaf ynghyd â chyfoeth rhyfeddol o dalent lleol.
Ar ran grŵp cynllunio’r ŵyl, dywedodd y Cadeirydd Patrick Thomas bod y trefniadau eleni yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol, ac yn cynnig “rhywbeth i bawb, gyda cherddoriaeth, ffilm, llenyddiaeth, paentio, sain ac am y tro cyntaf, perfformiad dawns.”
“Mae Gŵyl Ar Ymyl y Tir bellach yn rhan hanfodol o’r sîn ddiwylliannol yng Ngorllewin Cymru.”
“Mae uchafbwyntiau eleni’n cynnwys y gantores-gyfansoddwraig Mari Mathias, yr awduron arobryn Richard Gwyn a Jon Gower, y grŵp gwerin Filkin’s Drift a Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa.”
“Mae’r ŵyl yn agor gyda gorymdaith drwy’r gefeilldrefi a grëwyd gan Theatr Byd Bychan. Bydd digwyddiadau i blant a phobl ifanc gan gynnwys gweithdai barddoniaeth a phypedwaith.”
“Bydd artistiaid, cerddorion, actorion ac awduron o’r gymuned leol yn ymddangos dros dridiau’r ŵyl, ac mewn digwyddiadau eraill yn arwain at yr ŵyl – felly gwyliwch y gofod hwn!”
“Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn y prif ganolfan, sef Theatr Gwaun, yn y Ffwrn, Peppers ac mewn lleoliadau awyr agored ar draws Abergwaun ac Wdig – a byddant yn fforddiadwy iawn. Rydyn ni eisiau cynnwys pawb.”
Mae Ar Ymyl y Tir yn ŵyl i’r holl gelfyddydau – cerddoriaeth, theatr, ffilm, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a mwy, ac yn ddathliad o Ogledd Sir Benfro – y lle a’r bobl sy’n byw yma.
Lansiwyd yr ŵyl gyntaf ym mis Medi 2021, a chynhaliwyd yr ŵyl eto ym mis Medi 2022 a 2023 gyda chyllideb fwy diolch i gyllid Cyngor y Celfyddydau, a mwy o ddigwyddiadau.
Y thema sy’n rhedeg drwy’r ŵyl eleni fydd ‘ffiniau’.
© 2023 Theatr Gwaun, Charitable company No.07565394.
Brand & Website Design by HU STUDIO | Feature photography courtesy of KAREL JASPER