Close

Digwyddiadau byw ar lwyfan a darllediadau byw ar ein sgrin fawr.

Dyma gyfle i fod un cam yn nes at y llwyfan, tra byddwch yn aros yn lleol.

Galwad am syniadau – Ar Ymyl y Tir/On Land’s Edge 2023

Mae Ar Ymyl y Tir/ On Land’s Edge yn ŵyl i’r holl gelfyddydau – cerddoriaeth, theatr, ffilm, llenyddiaeth, y celfyddydau gweledol a mwy, ac yn ddathliad o Ogledd Sir Benfro – y lle a’r bobl sy’n byw yma.

Lansiwyd yr ŵyl ym mis Medi 2021, a chynhaliwyd hi eto ym mis Medi 2022 gyda chyllideb ychwanegol , diolch i gyllid Cyngor y Celfyddydau, i greu mwy o ddigwyddiadau.

Rydym bellach yn dechrau cynllunio gŵyl y flwyddyn nesaf, ac rydym am gynnwys ein cymuned leol, gan gynnwys y gymuned greadigol, yn y cynllunio o gyfnod cynnar. Hoffem ffocysu yn bennaf, ond ddim yn llwyr, ar y thema ‘teithiau’.

Beth hoffech chi ei weld yn On Land’s Edge/Ar Ymyl y Tir yn 2023? Oes gennych chi ddiddordeb neu frwdfrydedd arbennig yr hoffech chi gael ei adlewyrchu yn y rhaglen? Ydych chi’n actor neu’n gerddor sy’n chwilio am gyfle i berfformio ar lwyfan mwy? Ydych chi’n artist, yn awdur, yn gyfansoddwr gyda syniad yr hoffech ei gyflwyno i ni? Rydym yn awyddus i glywed barn pawb cyn i ni orffen y rhaglen – felly cysylltwch â ni!

E-bost info@onlandsedge.co.uk – dylai syniadau gael eu hegluro mewn 200 gair neu llai, gyda nid mwy na dau ddolen, os oes angen.