Mae Theatr Gwaun bellach ar agor DRWY’R DYDD
ar ddydd Mercher, o 10:00yb tan tua 9:30yh.
Gyda chymorth gan Ffilm Cymru, rydym bellach yn cynnal sesiynau ‘Croeso Mercher’ a byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn TG ar gyfer un o’r dangosiadau ffilm drwy gydol y dydd. Gallwch hefyd ymuno â ni yng Nghaffi a Bar Martha am ddiod a byrbryd a mwynhau croeso cynnes ein staff cyfeillgar a gwirfoddolwyr.
Mae yma WiFi am ddim, digon o bwyntiau pŵer ac Oriel Gelf wedi’i churadu ac mae croeso i chi ddefnyddio ein gofod i weithio, darllen, cymdeithasu, pori’r gwaith celf neu eistedd ac ymlacio gyda phaned!
Bydd ein dangosiadau ffilm am 11:00yb, 1:30yp a 7:30yh, er y gall yr amseriadau newid felly cofiwch edrych ar ein tudalen Beth Sydd Ymlaen bob amser.
Bydd POB dangosiad yn cael ei is-deitlo er mwyn darparu ar gyfer y rhai y mae’n well ganddynt neu sydd angenis-deitlau. Hefyd ceir dangosiadau hamddenol lle bydd goleuadau’r tŷ yn aros ymlaen, ar lefel isel, trwy gydol y ffilm a bydd y saint yn cael ei leihau islaw gosodiad safonol y ffilm. Byddwn hefyd yn trefnu sesiynau i groesawu rhieni a gofalwyr sydd â phlant cyn oed ysgol i fwynhau ffilm mewn lleoliad anffurfiol, cyfeillgar i blant.
Bydd ‘Croeso Mercher’ hefyd yn gyfle i TG gyflwyno ystod o ffilmiau prif ffrwd yn ogystal â theitlau annibynnol. Yn eu plith byddwn yn dewis ffilmiau gan gyfarwyddwyr tramor, neu sydd â chast byd-eang wrth i ni ddathlu ystod gyfoethog ac amrywiol o ffilmiau o bob rhan o’r byd.
Mae pris pob tocyn ffilm yn £6 yn unig ac mae ein diodydd poeth (te, coffi a siocledi poeth) hefyd yn cael eu gostwng i £1 y cwpan, gan wneud ‘Croeso Mercher’ yn ddull fforddiadwy iawn o fwynhau ffilm yn eich theatr gymunedol leol.