Close

‘Mae ein stori ni’n un unigryw – a dyw e ddim drosodd!’

Feature Photograph by Karel Jasper

Mae Theatr Gwaun yn theatr gymunedol annibynnol, gyda sinema, bar a chaffi, yn Abergwaun, Sir Benfro.

Mae Theatr Gwaun wedi bod trwy sawl cyfnod diddorol a heriol ers ei adeiladau fel neuadd gymunedol gan y Mudiad Dirwestol yn 1878. Am flynyddoedd lawer fe’i rhedwyd fel theatr a sinema gan yr awdurdod lleol. Pan gafodd ei bygwth i gau ddeng mlynedd yn ôl, daeth y gymuned i’r adwy, gyda nifer fach o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig yn ymgymryd â’r holl weithgareddau gweithredol. Roedd yr un ysbryd cymunedol yn ein galluogi i ailagor o’r cyfnod clo ym mis Gorffennaf 2021 a chroesawu cynulleidfaoedd a pherfformwyr yn ôl.

Cawn ein hariannu gan gyfranwyr hael, cefnogwyr ffyddlon ein Haelodaeth Gyswllt, a chynllun Cyfeillion Theatr Gwaun ynghyd â grantiau gan noddwyr.

 

Galluogodd gwobr hael gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i osod paneli solar a fydd yn arwain at ddyfodol gwyrdd a hunangynhaliol o ran trydan.

 

I glywed am ddigwyddiadau a’r hyn sydd gennym ar y gweill gallwch gofrestru i’n rhestr bostio drwy glicio YMA

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi Theatr Gwaun drwy nawdd, cysylltwch â ni:

enquiries@theatrgwaun.com

Dewch i ymweld â ni am groeso cynnes, sinema wych ac adloniant byw.

 

Gyda chymorth cyllid allanol a phŵer gwirfoddolwyr, mae’r cyntedd a’r caffi ardal wedi’u twtio ac mae mesurau rhagofalus COVID-19 wedi’u gosod drwyddi draw.

 

Rydym yn falch o gydweithio â thair gŵyl gerddorol flynyddol: Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun, AberJazz a Gŵyl Werin Abergwaun a chyda chwmnïau dramatig sefydledig a lleol fel Best Foot Forward, FADDS a Chymdeithas Theatr Gerdd Abergwaun.

 

Mwy ar ein rhaglen digwyddiadau cerddorol a theatrig fyw yn dod yn fuan.