Pagliacci / Clowns
Music and Libretto Ruggero Leoncavallo
English Translation Richard Studer
Chamber Arrangement Jonathan Lyness
Director/Designer Richard Studer
Music Director Jonathan Lyness
Mid Wales Opera are back on tour this autumn with Leoncavallo’s legendary operatic thriller ‘Pagliacci’, or ‘Clowns’. Canio, the leader of a touring troupe of comedy actors, discovers that his wife Nedda is having an affair with one of the other performers. But before finding out who it is, he must go on stage and perform the role of… a despairing husband whose wife is having an affair. The performance culminates with the terrifying blurring of reality between stage and real life witnessed by a terrified audience. Packed with sensational music, Pagliacci retains its cult status as the ultimate operatic ‘play-within-a-play’.
MWO’s new production features a cast of 5 singers and 5 musicians, with a new English translation by Richard Studer, and a new chamber arrangement by Jonathan Lyness. As previously with SmallStages, the opera forms just the first half of the evening. The second half will feature a newly created cabaret of popular and entertaining musical items featuring all singers and musicians for audiences to revel in and enjoy.
Pagliacci / Clowns
Cerddoriaeth a Libretto Ruggero Leoncavallo
Cyfieithiad Saesneg Richard Studer
Trefniant Siambr Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness
Mae Opera Canolbarth Cymru yn ôl ar daith yn yr hydref eleni gydag opera ias a chyffro enwog Leoncavallo ‘Pagliacci’, neu ‘Clowns ‘. Mae Canio, arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi, yn darganfod bod ei wraig Nedda yn cael perthynas gydag un o’r perfformwyr eraill. Ond cyn darganfod pa berfformiwr, rhaid iddo fynd ar y llwyfan a chwarae rhan… gŵr anobeithiol y mae ei wraig yn twyllo arno. Daw’r perfformiad i ben gyda’r realiti’n cael ei gymylu’n frawychus nes bod y llinell rhwng y perfformiad llwyfan a bywyd go iawn yn aneglur ac yn dychryn y gynulleidfa sy’n gwylio. Mae Pagliacci, sy’n llawn cerddoriaeth syfrdanol, yn dal gafael yn ei statws cwlt fel y ‘ddrama-o-fewn-drama‘ operatig eithaf.
Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys cast o 5 canwr a 5 cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Richard Studer, a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Fel gyda LlwyfannauLlai, bydd yr opera yn digwydd yn hanner cyntaf y noson yn unig. Bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr sy’n cynnwys yr holl gantorion a’r cerddorion i’r gynulleidfa gael noson i’w chofio.