Close

Arddangosfeydd Celf yn Theatr Gwaun

Mae caffi/bar Martha, ynghyd ag ardal ein Swyddfa Docynnau, bellach wedi’u sefydlu’n gadarn fel gofod ar gyfer arddangosfeydd celf rheolaidd. Mae’r fenter gyffrous hon yn rhoi cyfle i artistiaid a ffotograffwyr lleol, boed yn adnabyddus neu’n dal i gael eu ‘darganfod’, i ddangos eu gwaith i’r gymuned.

Mae artistiaid yn cael eu ddewis a chaiff yr arddangosfeydd eu curadu gan ein Hymddiriedolwr, Blanche Giacci mewn partneriaeth â Chymdeithas Celfyddydau Abergwaun.

Am wybodaeth, cysylltwch â
admin@theatrgwaun.com.

Ar hyn o bryd mae gennym Merren Coleman, lluniadau graffeg cywrain a ffotograffydd lleol, Barry Chantler, sy’n arddangos.

Dechreuon ni eleni gyda phaentiadau hardd yr artist adnabyddus, Janette Miles (Cymdeithas Celfyddydau Abergwaun).

Ar 2 Mai bydd yr arddangosfa yn newid i waith lliwgar yr artist lleol Clare Choc Howell (Cymdeithas Celfyddydau Abergwaun).